Dyw e ddim yn deg ohona i i gymharu y Wiki Saesneg â'r Wici Cymraeg (yn enwedig gan fy mod i wedi cyfrannu cynlleiad i'r ail). Ond weithiau mae'n edrych yn debyg y bydd cyfieithwyr electronig go iawn ar gael, sy'n gallu trosi erthyglau Saesneg i bob iaith dan haul, cyn i ni'r Cymry ddod â fersiwn Wicipedia sy'n 10% mor gyflawn â'r fersiwn Saesneg. Ar hyn o bryd mae llai nag 1% o erthyglau yn y Gymraeg ag sydd yn Saesneg, a rheiny, ar y cyfan, yn llai o faint ynddynt eu hunain.
Bues i mewn darlith gan <a href="http://borel.slu.edu/" title="" rel="nofollow">Kevin Scannell</a> wythnos o'r blaen, ac oedd e'n awgrymu ein bod ni ar drothwy datblygiadau mawr ym maes cyfieithu peiriannol, gan gynnwys mewn ieithoedd lleiafrifol. Gawn ni obeithio.
↧